P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ‘National Anti Snaring Campaign’, ar ôl casglu cyfanswm o 2,481 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Er y cafodd ffermio ffwr ei wahardd yn y DU yn 2000, mae maglu ffwr yn parhau i fod yn gyfreithlon yn achos rhai anifeiliaid gwyllt fel llwynogod, cwningod a mincod.
Rydym yn ymgyrchu i gau’r bwlch hwn i atal dioddefaint i fwy o anifeiliaid yn y maglau barbaraidd hyn, a chael eu lladd mewn ffordd greulon a’u blingo am eu crwyn.
Rydym yn gofyn am ddileu’r arfer o ddal anifeiliaid gwyllt mewn maglau i’w defnyddio yn y fasnach ffwr, a bod yr awdurdodau priodol yn cefnogi’r gyfraith ac yn monitro’r sefyllfa’n ofalus.
Gwybodaeth Ychwanegol
Crëwyd y ddeiseb hon mewn ymateb i achos diweddar a welwyd o faglwr ffwr yng Nghymru yn gwbl agored a bwriadol yn maglu llwynogod, yn eu curo i farwolaeth ac yn eu blingo er mwyn gwerthu eu crwyn yn y fasnach ffwr dramor.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Clwyd
· Gogledd Cymru